Mae pêl-droed yn Lloegr yn wynebu rhagor o drafferthion yn ymwneud a hiliaeth ar ôl i fideo ymddangos ar y we o gefnogwyr West Ham yn gweiddi sloganau gwrth-Semitaidd.

Roedd West Ham yn chwarae yn erbyn Tottenham Hotspur, clwb sydd â chysylltiad hanesyddol a’r gymuned Iddewig yn Llundain, mewn gêm Uwch Gynghrair prynhawn ddoe.

Cafodd fideo ei ffilmio o gefnogwyr West Ham ar drên tanddaearol yn Llundain ar y ffordd i’r gêm yn canu slogan gwrth-Semitaidd at gefnogwyr Spurs.

Mae hyn yn dod llai nag wythnos ar ôl i rai o gefnogwyr Chelsea gael eu ffilmio yn gwthio dyn du oddi ar y Metro ym Mharis cyn canu “We’re racist, and that’s the way we like it”.

Heddlu’n ymchwilio

Fe gadarnhaodd Heddlu Trafnidiaeth Llundain eu bod nhw eisoes yn ymchwilio i’r digwyddiad, ar ôl i gefnogwr Spurs o’r enw @RomanGeezer lwytho’r fideo i Twitter.

Dywedodd yr heddlu eu bod yn trin y mater “o ddifrif” gan fod digwyddiadau ar Metro Paris a gorsaf St Pancras, ble bu rhagor o adroddiadau o gefnogwyr Chelsea yn canu, yn dangos bod problem ehangach.

Dywedodd y mudiad gwrth hiliaeth Kick It Out eu bod hefyd wedi dwyn sylw’r heddlu at nifer o sylwadau gwrth-Semitaidd ar wefannau cymdeithasol gan gefnogwyr West Ham.

Dyw’r fath ddigwyddiadau o gwmpas gemau Tottenham Hotspur ddim yn anghyffredin – mae’r gair ‘Yid’ yn cael ei ddefnyddio o hyd weithiau gan gefnogwyr timau eraill i gyfeirio at gefnogwyr Spurs, yn ogystal â gan gefnogwyr Spurs eu hunain.

Mewn datganiad fe ddywedodd y clwb eu bod yn gobeithio gweld  cefnogwyr West Ham fu’n gweiddi’r sloganau yn cael eu cosbi.

“Mae gwrth-Semitiaeth o unrhyw fath yn hollol annerbyniol ac rydyn ni’n cefnogi pob ymdrech i gael ei wared o’r gêm,” meddai llefarydd ar ran Tottenham Hotspur.

“Rydyn ni’n gobeithio y bydd yr unigolion sydd yn gyfrifol am yr ymddygiad ffiaidd yma yn cael eu hadnabod a’u cosbi yn y modd cryfaf posib.”