Aled Sion Davies
Mae Aled Sion Davies wedi torri ei record byd ei hun yn y ddisgen, ar ôl taflu 48.87m mewn cystadleuaeth Grand Prix yn Dubai dros y penwythnos.
Llwyddodd y Cymro 23 oed i dorri ei record byd ei hun o 48.69m a daflodd llynedd, ac mae’n dod wythnos yn unig ar ôl iddo dorri ei record bersonol yn taflu siot gyda thafliad o 15.93m.
Aled Sion Davies yw’r pencampwr Ewropeaidd, Byd a Pharalympaidd yn taflu’r ddisgen yn ei gategori F42, ac fe fydd yn cystadlu eto am aur ym Mhencampwriaeth y Byd yn Doha ym mis Hydref.
Ond roedd yn siomedig i beidio ennill aur yn y gystadleuaeth taflu disgen yng Ngemau’r Gymanwlad yng Nglasgow llynedd.
Yn anffodus iddo ef dyw’r gystadleuaeth ddisgen ddim ar restr cystadlaethau Gemau Paralympaidd Rio 2016 ar hyn o bryd.
Llynedd fe newidiodd Aled Sion Davies ei hyfforddwr o Anthony Hughes i Ryan Spencer-Jones, ac ers hynny mae ei berfformiadau wedi gwella.