Ashley Williams, capten Abertawe (llun: Adam Davy/PA)
Rydan ni’n dechrau cyrraedd y cyfnod rŵan, gyda gêm Cymru yn erbyn Israel ychydig dros fis i ffwrdd, ble mae’n rhaid poeni bob penwythnos am anafiadau posib.

Ond o leiaf mae rhai o’r Cymry yn parhau i chwarae’n dda i’w clybiau, gydag Ashley Williams a Neil Taylor yn amddiffyn Abertawe unwaith eto wrth iddyn nhw sicrhau buddugoliaeth hanesyddol o 2-1 yn erbyn Man United.

Dyma oedd y tro cyntaf erioed i’r Elyrch guro’r tîm o Fanceinion ddwywaith mewn tymor, ar ôl iddyn nhw hefyd ennill 2-1 ar ddiwrnod cyntaf y tymor.

Daeth James Collins oddi ar y fainc am bedwar munud i West Ham yn erbyn Spurs, ond doedd methu atal ei dîm rhag ildio cic o’r smotyn hwyr a gweld y gêm yn gorffen yn gyfartal.

Yr un oedd hanes Andy King gyda Chaerlŷr, wrth iddo ddod ar y cae am dri munud dim ond i weld Everton yn cipio pwynt yn hwyr yn y gêm.

Chwaraeodd Joe Allen gêm lawn i Lerpwl wrth iddyn nhw ennill 2-0 i ffwrdd yn Southampton, ond er i’r Cymro chwarae’n dda roedd yn lwcus i beidio ag ildio cic o’r smotyn yn yr ail hanner.

Yn anffodus i Joe Ledley colli oedd hanes Crystal Palace yn erbyn Arsenal, ond fe ddaeth Sam Vokes oddi ar y fainc i Burnley a gweld ei dîm yn cipio pwynt i ffwrdd yn Chelsea.

Ac fe arhosodd Gareth Bale a Real Madrid ar frig La Liga gyda buddugoliaeth o 2-0 dros Elche, ond Ronaldo gipiodd y penawdau unwaith eto gyda gôl sydd yn golygu ei fod bellach yn drydydd ar restr sgorwyr Real Madrid erioed.

Y Bencampwriaeth

Yn y Bencampwriaeth fe beniodd Dave Edwards bedwaredd gôl Wolves wrth iddyn nhw drechu Rotherham yn hawdd o 5-0, ei chweched gôl o’r tymor o ganol cae.

Llwyddodd Hal Robson-Kanu a Reading i ennill o 1-0 i ffwrdd yn Ipswich, canlyniad sydd yn eu codi i 13eg yn y tabl.

Cafodd Shaun Macdonald gêm brin i Bournemouth, ond doedd methu atal ei dîm rhag colli 2-1 a llithro allan o’r ddau safle uchaf.

Chwaraeodd Steve Morison gêm lawn wrth i Leeds gipio buddugoliaeth annisgwyl yn erbyn Middlesbrough oedd ar frig y tabl.

Ac roedd Morgan Fox yn nhîm Charlton wrth iddyn nhw ennill 3-0 oddi cartref yn Wigan.

Yn Uwch Gynghrair yr Alban fe chwaraeodd Adam Matthews i Celtic a Marley Watkins i Inverness.

Ac yng Nghynghrair Un fe beniodd Lewin Nyatanga Barnsley ar y blaen yn eu buddugoliaeth dros Crewe.

Ymysg y Cymry eraill i chwarae yn y gynghrair honno roedd Elliott Hewitt, James Wilson, Gwion Edwards, Josh Pritchard a Chris Maxwell.

Seren yr wythnos – Dave Edwards. Gôl arall i Wolves, y tro hwn yn beniad taclus o’r postyn agosaf, gan brofi ei allu ymosodol unwaith eto.

Siom yr wythnos – Paul Dummett. Cadarnhad yr wythnos hon fod disgwyl iddo fod allan am bron i dri mis gydag anaf.