John Higgins
Enillodd John Higgins ei bencampwriaeth gyntaf ers 2012 neithiwr wrth iddo guro Ben Woollaston ym Mhencampwriaeth Snwcer Agored Cymru.

Fe wnaeth yr Albanwr, sy’n 39 mlwydd oed ac sydd wedi ennill Pencampwriaeth y Byd bedair gwaith, ennill o naw ffrâm i dri.

Meddai John Higgins: “Dw i wastad  wedi bod yn chwaraewr ble mae’r entrychion yn dilyn y gwaelodion.

“Dyna sydd wedi fy nghadw i fynd. Dw i wedi bod ar y gwaelod am yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ond mae’n rhaid i chi gario mlaen i gredu.”