Mae disgwyl i Lywodraeth Prydain gyhoeddi mesurau newydd i fynd i’r afael â chwmnïau sy’n ceisio osgoi talu trethi.
Yn ôl Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, Danny Alexander, mi fyddai hi bellach yn drosedd i “gorfforaeth fethu ag atal trosedd economaidd”.
Byddai’r ddeddfwriaeth newydd yn gosod y drosedd ar yr un lefel â mynd ati’n fwriadol i osgoi talu trethi, ac mae Llywodraeth Prydain yn gobeithio cyflwyno’r ddeddfwriaeth cyn yr etholiad cyffredinol ar Fai 7.
Pe na bai hynny’n bosib, meddai Alexander, fe fyddai’n rhan bwysig o faniffesto’r Democratiaid Rhyddfrydol ar gyfer y cyfnod seneddol nesaf.
Dywedodd Danny Alexander wrth raglen Andrew Marr y BBC y byddai’r ddeddfwriaeth yn annog cwmnïau ymhellach i beidio osgoi talu trethi.
“Bydd sefydliadau, boed yn gyfrifwyr, banciau neu beth bynnag, sy’n helpu pobol i osgoi talu trethi yn euog o’r drosedd newydd hon ac fe allen nhw wynebu cosbau ariannol.”
Ychwanegodd fod osgoi talu trethi yn destun “tabŵ” yn y gymdeithas, a bod yna “broblem fod rhai pobol yn parhau i feddwl y gallan nhw fynd heb dalu eu siâr deg o drethi”.
Y gobaith, yn ôl Alexander, yw sicrhau bod “osgoi talu trethi yr un mor annerbyniol yn y gymdeithas â thwyll budd-dal neu yfed a gyrru”.