Mae cynghorydd sydd wedi cael ei diarddel o blaid UKIP am wneud sylwadau sarhaus am bobol groenddu wedi dweud nad yw hi ddim yn edifar am y sylwadau.
Dywedodd Rozanne Duncan, aelod blaenllaw o UKIP yn Ne Thanet lle bydd Nigel Farage yn ymgeisydd seneddol, fod yn gas ganddi “nodweddion y Negro”.
Cafodd Duncan ei disgyblu a’i diarddel o’r blaid ym mis Rhagfyr, ac mae ei holl sylwadau wedi cael eu ffilmio ar gyfer y rhaglen ddogfen, ‘Meet the Ukippers’.
Yn y rhaglen, dywedodd Duncan wrth swyddog y wasg UKIP, Liz Langton Way: “Rhaid i fi fod yn ofalus gyda fy nhafod gan y galla i ddweud fy meddwl yn blwmp ac yn blaen ac mae’n mynd yn groes i’r graen i fod yn ofalus beth dw i’n ei ddweud.”
Gwadodd ei bod hi’n hiliol, gan ychwanegu: “Yr unig bobol mae gen i broblem gyda nhw yw ‘negroes’. A dw i ddim yn gwybod pam.”
Wrth ymateb i’r ffaith fod ei phlaid wedi’i diarddel, dywedodd Duncan fod “agenda cudd” gan UKIP a’u bod nhw wedi ei bradychu.