Mae teulu merch o Brydain sy’n briod ag un o filwyr y Wladwriaeth Islamaidd wedi ei beirniadu am ei rhan yn y broses o recriwtio tair merch ifanc i ymladd gyda’r eithafwyr yn Syria.
Mae lle i gredu bod Aqsa Mahmood wedi helpu Shamima Begum, 15, Kadiza Sultana, 16, ac Amira Abase, 15, i hedfan i Dwrci o faes awyr Gatwick ddydd Mawrth.
Fe fu un o’r merched yn cyfathrebu ag Aqsa Mahmood ar Twitter cyn iddi deithio i Syria ym mis Tachwedd 2013 wedi iddi gael ei radicaleiddio.
Mewn datganiad, dywedodd ei theulu eu bod nhw’n “llawn ffieidd-dra ac yn grac” ynghylch ei gweithredoedd wrth recriwtio’r merched.
Mewn neges uniongyrchol at eu merch, dywedodd y teulu: “Rwy’n ti’n warth i dy deulu a phobol yr Alban, mae dy weithredoedd yn afluniad gwyrdroedig a chythreulig ar y ffydd Islamaidd.
“Rwy’n ti’n lladd dy deulu bod dydd gyda dy weithredoedd, maen nhw’n ymbil arnat ti i stopio os oeddet ti byth yn eu caru.”
Mae lle i gredu bod gan Mahmood gyfrif Twitter yn enw Umm Layth, a’i bod wedi teithio i Aleppo yn Syria yn 2013.
Cafodd hi addysg breifat cyn mynd i’r brifysgol.
Dywed ei theulu bod gan yr awdurdodau “gwestiynau difrifol i’w hateb” ynghylch sut y daeth i gysylltiad â’r merched, gan eu bod nhw wedi bod yn monitro’i defnydd o wefannau cymdeithasol ers iddi adael ei chartref.