Milwyr ar y ffin rhwng Twrci a Syria
Mae milwyr o Dwrci wedi mynd i mewn i Syria i geisio tynnu milwyr allan sydd wedi body n gwarchod beddrod o gyfnod Ymerodraeth Ottoman.
Cafodd y milwyr gefnogaeth awyrennau oedd wedi croesi’r ffin i fynd i dref Kobani.
Cafodd un milwr ei ladd yn ystod yr ymgyrch, ond does dim rhagor o manylion wedi cael eu cadarnhau hyd yn hyn.
Cafodd beddrod Suleyman Shah, tad-cu Osman I, sef sylfaenydd Ymerodraeth Ottoman, ei symud i Dwrci.
Roedd y beddrod ar lannau afon Euphrates yn nhalaith Aleppo, sy’n cael ei ystyried yn rhan o diriogaeth Twrci.
Mae disgwyl i’r beddrod gael ei symud i ran arall o Syria.