Mae’r gwasanaethau brys wedi ail-ddechrau chwilio am Cameron Comey o Danerdy, chwe niwrnod wedi i’r bachgen 11 oed ddiflannu.
Fe fydd gwylnos heno ger Pont King Morgan, wedi i wasanaeth arbennig gael ei gynnal yn Eglwys San Pedr y dref nos Wener.
Mae mwy na 50 o aelodau o’r gwasanaethau brys yn cymryd rhan yn y chwilio unwaith eto yn ystod y dydd heddiw, gan gynnwys yr heddlu, y gwasanaeth tân, gwylwyr y glannau, badau achub a thimau achub mynydd.
Cafodd Cameron Comey o Gaerfyrddin ei weld y tro diwetha’ yn chwarae gyda’i frawd ger yr afon yn ardal Tanerdy ger Caerfyrddin toc cyn 4 o’r gloch ddydd Mawrth.
Mae’r heddlu wedi apelio ar unrhyw un a oedd yn yr ardal ger yr afon rhwng 2 a 4 brynhawn dydd Mawrth ac sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar 101.