Meredydd Evans a'i briod Phyllis Kinney yn eu cartref yng Nghwm Ystwyth
Mae’r unig un o Driawd y Coleg sy’n dal ar ôl yn cofio Meredydd Evans fel un a fu’n gyfaill mynwesol iddo am bron i 70 mlynedd.
“Roedd yn sicr yn un o ddynion mwyaf amryddawn ei oes,” meddai Cledwyn Jones.
“Roedd yn athronydd penigamp, yn gerddor, yn fardd ac roedd popeth yr oedd o’n ei wneud yn cael ei wneud yn dda a thrwyadl ganddo.
“Roedd yn arbenigwr ym maes canu gwerin ac yn ymhyfrydu yn y caneuon gwerin a ddysgodd ar lin ei fam. Mi wnaeth o gyfraniad amhrisiadwy wrth ddiogelu cannoedd o’r rhain rhag mynd yn angof.”
Fe wnaeth y ddau gyfarfod ei gilydd am y tro cyntaf yn y brifysgol ym Mangor yn 1945, a daeth Cledwyn Jones yn aelod o Driawd y Coleg yn fuan wedyn.
“Merêd oedd awdur geiriau pob un o ganeuon Triawd y Coleg, ac eithrio ‘Pictiwrs Bach y Borth’ a gafodd ei sgwennu gan Robin Williams [yr aelod arall o’r Triawd],” meddai.
“Pryd bynnag y bydda i’n meddwl am y gân ‘Mari Fach’ ‘… Y silff ben tân a’r piwtar / Y pentan bach a’r ffendar / A’r hen gloc mawr a’r dresal …’ mi fyddaf yn gweld fy nghartref i yn Nhal y Sarn a’i gartref o yn Nhanygrisiau.
“Mi wnaethon ni sylweddoli’n fuan ein bod ni o gefndir tebyg i’n gilydd, y ddau ohonon ni’n feibion i chwarelwyr, a dw i’n meddwl bod hynny rywsut wedi bod yn sail i’n cyfeillgarwch hir.
“Fuo ‘na erioed air croes rhyngon ni ar hyd y blynyddoedd.”
‘Difyr, gwybodus a diwylliedig’
Atgofion amdano fel landlord sydd gan olygydd Barn, Menna Baines, a’i gŵr Peredur Lynch a fu’n byw yng Nghwm Ystwyth am gyfnod:
“Roedd bod yn denantiaid i Merêd a Phyllis yn brofiad hollol arbennig ac yn gyfnod hapus.
“Fydden ni ddim wedi gallu cael landloriaid mwy difyr, gwybodus a diwylliedig. “Roedd llyfrgell Afallon yn rhyfeddol – llyfrau yn leinio’r holl stafell ac yn adlewyrchu diddordebau’r ddau, athroniaeth, cerddoriaeth a llawer mwy. Mae gennym atgofion da am sgyrsiau melys fyddai’n para oriau.
“Ac roedd o hyd yn taro rhywun pa mor hapus oedden nhw yno ynghanol tawelwch a harddwch gogoneddus Cwmystywth, yn gwylio’r barcutod coch ac yn eu bwydo nhw’n gyson, ac wrth eu boddau’n sgwrsio efo’u cymdogion yn y pentre – roedd amser ganddyn nhw i bawb.”
‘Seren gyntaf y byd canu pop Cymraeg’
Wrth dalu teyrnged iddo, meddai Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones:
“Merêd a dweud y gwir oedd seren gyntaf y byd canu pop Cymraeg, gyda’i lais melfedaidd, ei ganeuon gafaelgar a’i bersonoliaeth ddeniadol; ond bu’n gymaint mwy na hynny.
“Yn gynhyrchydd a phennaeth adran adloniant BBC Cymru, roedd yn teimlo’n angerddol yr angen am raglenni poblogaidd fyddai’n apelio at genedl gyfan, ac yn gwybod sut i fynd ati i’w creu nhw. Yn ymgyrchydd di-flino, rhoddodd ysbrydoliaeth ac arweiniad yn nyddiau’r frwydr i sefydlu S4C, a bu’n feirniad unplyg ond cwrtais o ymdrechion y darlledwyr Cymraeg i gyrraedd y nôd wedi hynny.
“Gyda’i waith gorchestol, law yn llaw â Phyllis, ym maes canu gwerin, yn athronydd uchel ei barch ac athro disglair, roedd yn wir yn ffigwr unigryw yn hanes diweddar ein cenedl.”