Y Prif Weinidog David Cameron (llun: PA)
Mae’r Prif Weinidog David Cameron wedi pwyso ar ysgolion i chwarae eu rhan yn y ‘frwydr yn erbyn eithafiaeth Islamaidd’.
Dywedodd ei fod yn bryderus iawn am y tair merch ysgol o Lundain sydd wedi hedfan i Istanbul ac y credir eu bod ar eu ffordd i Syria i ymuno ag Islamic State.
“Yn amlwg, fe wnawn ni bopeth yn ein gallu i helpu’r merched hyn,” meddai.
“Ond dyw’r frwydr yn erbyn eithafiaeth Islamaidd ddim yn un y gall yr heddlu a swyddogion mewnfudo ei hymladd ar eu pen eu hunain.
“Mae angen i bob ysgol, pob coleg, pob cymuned i gydnabod bod ganddyn nhw ran i’w chwarae.
“Mae gan bawb ohonom ran i’w chwarae wrth rwystro pobl rhag cael eu meddyliau wedi eu gwenwyno gan y cwlt marwolaeth ffiaidd yma.”