Senedd gwlad Groeg yn Athen
Yn dilyn cytundeb rhwng gwledydd yr Ewro, mae’r benthyciadau i wlad Groeg wedi cael eu hymestyn am bedwar mis arall.
Mae’n golygu y bydd y wlad yn osgoi mynd yn fethdalwr dros y pedwar mis nesaf o leiaf, ac y bydd digon o arian gan fanciau’r wlad i lenwi eu peiriannau twll yn y wal.
Hyd nes i’r fargen gael ei tharo rhwng 19 gwlad yr Ewro ddoe, roedd disgwyl y byddai gwlad Groeg wedi gorfod dod allan o’r Ewro y mis nesaf.
Mae ansicrwydd wedi bod ynghylch dyfodol economaidd y wlad ers i’r blaid Syriza ennill etholiad y mis diwethaf wrth addo rhoi’r gorau i’r toriadau mewn gwario cyhoeddus.
Mae’n ymddangos bellach y bydd yn rhaid i Syriza dorri’r addewid hwn i etholwyr gwlad Groeg.
Yn gyfnewid am ymestyn y ddyled, fe fydd y llywodraeth yn gorfod cyflwyno cyfres o ddiwygiadau economaidd ddydd Llun a fydd yn dderbyniol gan ei chredydwyr rhyngwladol.