Ed Miliband - sy'n fwy amhoblogaidd na David Cameron yn yr Alban
Mae’r SNP yn dal i fod ymhell ar y blaen i’r Blaid Lafur yn yr Alban, yn ôl yr arolwg barn diweddaraf.
Dangosodd yr arolwg gan Survation fod 45% o’r rhai a holwyd yn bwriadu cefnogi’r SNP yn etholiad San Steffan ym mis Mai – o gymharu â 28% o gefnogaeth i Lafur, 15% i’r Torïaid a 5% i’r Democratiaid Rhyddfrydol.
Mae’n ymddangos fod David Cameron yn ddewis mwy poblogaidd fel prif weinidog nag yw Ed Miliband.
Pan ofynnwyd pwy a fyddai’r dewis gorau fel Prif Weinidog, roedd 23% yn ffafrio Cameron o gymharu â 19% dros Miliband a 6% dros Nigel Farage.
Wrth ymateb i’r arolwg, dywedodd Jim Murphy, arweinydd Llafur yn yr Alban:
“Mae’r arolwg hwn yn dangos fod gan blaid Lafur yr Alban fwlch mawr i’w gau cyn yr etholiad cyffredinol.”