Llun teledu cylch cyfyng o'r merched ym maes awyr Gatwick ddydd Mawrth
Mae’r heddlu wrthi’n chwilio ar frys am dair merch ysgol o Lundain yr ofnir eu bod wedi ffoi i Syria i ymuno â’r grŵp eithafol Islamic State.

Roedd y tair, Shamina Begum, 15 oed, Kadiza Sultana, 16 oed a merch arall 15 oed nad yw wedi cael ei henwi, yn ddisgyblion ysgol Academi yn Bethnal Green yn nwyrain Llundain.

Roedden nhw wedi hedfan i Istanbul, Twrci o faes awyr Gatwick ddydd Mawrth heb adael unrhyw negeseuon ar eu holau.

Yn ôl y Comander Richard Walton o uned wrth-derfysgol Heddlu Llundain, yr unig obaith yw cael hyd i’r merched yn Nhwrci cyn iddyn nhw gyrraedd Syria a mynd i grafangau Islamic State.

Dywedodd fod yr heddlu’n mynd yn gynyddol bryderus am y nifer o ferched ifanc sy’n dangos diddordeb mewn ymuno ag IS.

Mae’r cwmni hedfan, Turkish Airlines, wedi cael eu beirniadu am beidio rhoi gwybod i’r heddlu bod y merched ar yr awyren.

Dywedodd y Comander Walton y gallai’r heddlu fod wedi rhwystro’r merched rhag gadael petaen nhw wedi cael gwybod mewn pryd.