Safle'r cwmni yn Llangefni
Mae pryder am ddyfodol swyddi 300 o weithwyr mewn lladd-dy cywion ieir yn Llangefni.
Mae’r perchnogion, y cwmni 2 Sisters Food Group, yn argymell cael gwared ar un o’r ddwy linell gynhyrchu yn y ffatri – ac fe fyddan nhw’n cychwyn ymgynghori ar y cynllun ddydd Llun.
Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni fod torri ar y cynhyrchu yn Llangefni yn ffordd o ‘symleiddio’ eu busnes, a chadarnhaodd y gallai swyddi gael eu colli o ganlyniad.
Mae tua 700 o bobl yn gweithio yn y ffatri ar y stad ddiwydiannol yn y dref ers i ail shifft gychwyn yno yn 2013.
Dywed swyddog rhanbarthol yr undeb Unite, Paddy McNaught fod cyhoeddiad y cwmni’n sioc fawr.
“Mae adolygiad strategol wedi bod ar y gweill ganddyn nhw, ac roedd disgwyl y byddai hyn yn arwain at gynlluniau i ehangu yn Llangefni oherwydd bod y cwmni wedi buddsoddi yn y safle,” meddai.
“Mae’n newyddion yma’n ergyd fawr i’r gweithwyr a hefyd i economi Sir Fôn.”
Ar ôl cyfnod o ymgynghori, mae disgwyl i’r cwmni wneud penderfyniad terfynol y mis nesaf.