Pencadlys Cyngor Gwynedd, Caernarfon
Dywed Cyngor Gwynedd eu bod yn arbed £700,000 y flwyddyn wrth gael gwared ar swyddi uwch-swyddogion.
Mae’r Cyngor yn wynebu diffyg o tua £50 miliwn yn y cyfnod hyd at 2017 oherwydd cyfuniad o doriadau cyllid gan y llywodraeth a chynnydd yn y nifer o bobl oedrannus yn y sir.
Dros y flwyddyn ddiwethaf mae tair swydd wedi cael eu dileu a bydd dwy swydd arall yn cael eu cyfuno.
“Mae’r newidiadau yma yn golygu ein bod mewn gwirionedd yn torri ein uwch dîm rheoli i’r isafswm posib sydd ei angen er mwyn gweithredu corff mor fawr â chymhleth,” meddai prif weithredwr y Cyngor, Dilwyn Williams.
Fe fydd rhan o’r arbedion yn mynd at godi cyflogau’r gweithwyr sydd ar y tâl isaf, yn ôl y Cynghorydd Peredur Jenkins, yr Aelod Cabinet sy’n gyfrifol am adnoddau.
“Rydan ni wedi penderfynu defnyddio elfen o’r arbediad i gymryd cam pellach tuag at ein nod o gyflwyno’r ‘Cyflog Byw’ i’r gweithwyr cyngor rheini sydd ar y cyflogau isaf,” meddai.
“Mae hyn yn gam arall cadarnhaol yn dilyn penderfyniad y llynedd i ddileu y ddau hicyn isaf yn strwythur tâl y Cyngor.”