Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones (llun: Y Blaid Lafur)
Mae Prif Weinidog Cymru wedi rhybuddio na fyddai’n bosib darparu gofal iechyd ac addysg am ddim pe bai’r Ceidwadwyr mewn grym yn dilyn yr etholiad cyffredinol.

Dywedodd Carwyn Jones wrth Golwg y byddai’r Torïaid yn torri cyllideb Llywodraeth Cymru o 25% dros bum mlynedd ac y byddai hynny’n “amhosib ei reoli”.

Canlyniad hynny, meddai, fyddai trethi uwch i dalu am wasanaethau.

Honnodd hefyd mai toriadau o “tua 2% i 3%” fyddai Llafur yn eu gwneud i gyllideb £15 biliwn Llywodraeth Cymru.

‘Gwahaniaeth mawr’ rhwng y ddwy blaid

“Fe fyddai pethau’n newid yn aruthrol,” meddai Carwyn Jones wrth siarad am gynlluniau’r Ceidwadwyr. “Dydych chi ddim yn gallu darparu gofal iechyd nac addysg am ddim gyda’r toriadau hynny, dydych chi ddim yn gallu darparu gofal cymdeithasol gyda’r toriadau hynny.

Mae’r Blaid Lafur yn San Steffan wedi pleidleisio gyda’r Ceidwadwyr i wneud toriadau ychwanegol o £30 biliwn. Ond mae Carwyn Jones yn mynnu bod “gwahaniaeth mawr” rhwng y ddwy blaid.

“R’yn ni’n gwybod y bydd hi’n anodd am y flwyddyn neu ddwy nesaf, r’yn ni’n deall hynny fel plaid,” meddai. “Os yw’r Ceidwadwyr yn ennill r’yn ni’n gwybod y gwelwn ni doriadau o tua 25% i’n cyllideb ac mae hynny’n enfawr.

Mae mwy am y stori hon yng nghylchgrawn Golwg.