Cafodd seiclwraig ei lladd ar ôl cael ei tharo gan lori yn ystod oriau brig yng nghanol Llundainbore ma.

Digwyddodd y ddamwain am 8yb ar Stryd Victoria, ger Theatr Victoria Palace. Bu farw’r ddynes, a oedd yn ei 30au, yn y fan a’r lle, yn ôl Scotland Yard.

Yn ôl llygad dystion, roedd  y beic wedi cael ei wasgu o dan olwynion y cerbyd.

Roedd y lori yn teithio trwy Bressenden Place, sy’n stryd unffordd, pan drodd y lori i’r chwith ar Stryd Victoria wrth ymyl goleuadau traffig, gan wrthdaro yn erbyn y seiclwraig.

Dywedodd llywydd yr AA Edmund King bod damweiniau o’r fath yn gyffredin iawn er gwaethaf ymgyrchoedd i annog lorïau i fod yn ymwybodol o seiclwyr ar y ffordd. Ychwanegodd bod angen gwneud llawer mwy i atal damweiniau yn ymwneud a seiclwyr.