Fe gynyddodd y nifer y bobl oedd wedi cyflawni
o 4% rhwng 2012 a 2013, yn ôl y ffigyrau diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).
Dangosodd y ffigyrau hefyd fod y gyfradd hunanladdiad ymysg dynion ar ei uchaf ers 2001, tra bod y gyfradd i ferched wedi parhau yn gymharol isel ers 2007.
Mae Cymru hefyd yn parhau i weld cyfradd llawer uwch o hunanladdiadau – yn 2013 roedd 15.9 o farwolaethau drwy hunanladdiad am bob 100,000 o’r boblogaeth, mwy na phob rhanbarth yn Lloegr.
A hunanladdiad yw’r prif achos o farwolaeth o hyd ymysg dynion a merched rhwng 20 a 34 oed.
Dynion yn fregus
Yn ôl y ffigyrau cafodd 6,233 hunanladdiad eu cofnodi yn 2013, 252 yn fwy na’r flwyddyn flaenorol.
Mae’r ffigyrau yn dangos fod cyfradd hunanladdiad ym Mhrydain wedi codi i 11.9 am bob 100,000 o’r boblogaeth erbyn 2013, y ffigwr uchaf ers 2004.
Ond ymysg dynion mae’r broblem yn waeth, gyda chyfradd o 16.6 yn uwch nag unrhyw flwyddyn ers 2001.
Mae’n parhau i fod dros dair gwaith yn fwy na’r gyfradd hunanladdiad ymysg merched, sydd dim ond yn 5.1 am bob 100,000 o’r boblogaeth.
Cymry’n dioddef
Mae’n debyg fod dynion yng Nghymru hyd yn oed yn fwy tebygol o gyflawni hunanladdiad nac ardaloedd yn Lloegr.
Roedd y gyfradd o 26.1 i ddynion yng Nghymru yn llawer mwy nac unrhyw ranbarth yn Lloegr, gyda dim ond dau ranbarth arall – y Gogledd Ddwyrain a’r Gogledd Orllewin – yn gweld canran uwch na 20.
Roedd y gyfradd hunanladdiad i ferched yng Nghymru (5.8) hefyd yn uwch na’r cyfartaledd, ond yn is na Gogledd Ddwyrain a De Orllewin Lloegr.
Gyda’i gilydd roedd y gyfradd hunanladdiad yng Nghymru yn 2013 yn 15.9 – yr agosaf i hynny yn Lloegr oedd 13.8 yn y Gogledd Ddwyrain.
Fodd bynnag, fe awgrymodd yr ONS y gallai’r ffaith fod hunanladdiadau yn cael eu prosesu’n gynt yng Nghymru nag yn Lloegr yn esbonio rhywfaint o’r gwahaniaeth sylweddol.
Poeni am ddynion canol oed
Wrth ymateb i’r ffigyrau fe ddywedodd Joe Ferns, Cyfarwyddwr Gweithredol Polisi, Ymchwil a Datblygiad y Samariaid, fod wir angen help ar ddynion canol oed yn benodol.
“Dyw’r newyddion heddiw fod cyfraddau hunanladdiad wedi cynyddu yn 2013 ddim yn syndod yn anffodus o ystyried cyd-destun yr hinsawdd economaidd heriol ag effaith cymdeithasol hynny,” esboniodd Joe Ferns.
“Mae angen mwy o ffocws ar lefel lleol a rhanbarthol i gydlynu a blaenoriaethu’r gwaith o atal hunanladdiad yn enwedig mewn ardaloedd difreintiedig.
“Mae’r risg uchel o hunanladdiad ymysg dynion canol oed yn parhau i fod yn bryderus. Mae cyfradd y grŵp yma nawr wedi cyrraedd ei lefel uchaf mewn 30 mlynedd (25.1 am bob 100,000). Allwn ni ddim anwybyddu’r ffigyrau yma.”
Awgrymodd yr Athro Louis Appleby, cadeirydd y Grŵp Ymgynghorol Cenedlaethol ar Atal Hunanladdiad yn Lloegr, fod angen ymgyrch benodol i rybuddio dynion canol oed o’r peryglon.
“Mae dynion yn wynebu risg uwch o hunanladdiad oherwydd eu bod nhw’n fwy tebygol o yfed yn drwm, defnyddio dulliau o frifo eu hunain sydd yn fwy tebygol o ladd, a’u bod nhw’n gyndyn i chwilio am help,” meddai Louis Appleby.
“Pymtheg mlynedd yn ôl fe ddisgynnodd y cyfraddau yn sylweddol ymysg dynion o dan 35 wrth daclo’r problemau hyn ac mae’n rhaid i ni ddefnyddio’r llwyddiant hwn i fynd i’r afael â phroblemau’r grŵp risg uchaf newydd, dynion canol oed.
“Mae’n rhaid i ni ei wneud e’n haws i ddynion ganfod help heb deimlo cywilydd na stigma.”