David Cameron
Mae’r Ceidwadwyr pedwar pwynt o flaen y Blaid Lafur mewn arolwg barn, sy’n awgrymu bod pleidleiswyr yn dychwelyd at y Torïaid cyn yr etholiad cyffredinol ym mis Mai.

Bu cynnydd o chwe phwynt i 36% ym mhoblogrwydd plaid David Cameron yn arolwg ICM ar gyfer y Guardian, gyda Llafur wedi gostwng un pwynt i 32%.

Roedd y Democratiaid Rhyddfrydol hefyd wedi gostwng un pwynt i 10%, Ukip wedi gostwng dau bwynt i 9%, tra bod y Blaid Werdd hefyd wedi gostwng dau bwynt i 7%.

Fe rybuddiodd Martin Boon o ICM Unlimited na ddylid rhoi gormod o bwyslais ar un arolwg ond dywedodd y gallai’r ffigurau awgrymu bod pleidleiswyr yn dechrau troi oddi wrth y pleidiau llai.

Mae’r Gwasanaeth Iechyd (GIG) yn parhau i fod yn flaenoriaeth i bleidleiswyr gyda 31% yn dweud y bydd yn ffactor sylweddol pan fyddan nhw’n bwrw pleidlais ar 7 Mai.

Swyddi, prisiau a chyflogau oedd yr ail flaenoriaeth, sef 17%, gyda mewnfudo wedi gostwng pedwar pwynt i 15% ac addysg wedi cynyddu pedwar pwynt i 12%.

Roedd arolwg ICM wedi holi 1,000 o oedolion rhwng 13 a 15 Chwefror.