Ed Miliband
Byddai Llywodraeth Lafur yn creu 80,000 yn fwy o brentisiaethau’r flwyddyn er mwyn sicrhau lle i unrhyw berson sy’n gadael ysgol gyda’r graddau angenrheidiol, cyhoeddodd Ed Miliband heddiw.
Mae Llafur am i gyflogwyr mewn diwydiant a’r sector cyhoeddus gynnig prentisiaethau, gan gynnwys swyddfeydd preifat gweinidogion y llywodraeth.
Fe wnaeth Ed Miliband y cyhoeddiad yn ffatri Jaguar yn Wolverhampton wrth i’r blaid ymateb i feirniadaeth ei bod yn gweithredu “yn erbyn busnesau.”
Bydd y polisi yn cynnwys creu 80,000 o leoedd ychwanegol y flwyddyn erbyn 2020.
Byddai cost y cynllun yn cael ei dalu gan dreth ar fonws bancwyr a chyfyngu ar ostyngiad yn y dreth ar bensiynau i bobl sy’n ennill mwy na £150,000.
Gyda’r economi yn debygol o fod yn un o’r materion pwysicaf cyn yr etholiad cyffredinol ym mis Mai, rhybuddiodd Ed Miliband bod cynllun y Llywodraeth bresennol i wella’r economi yn gweithio i’r “llond llaw” sydd ar y brig yn unig – ond byddai ei weledigaeth ef yn golygu economi a fyddai’n “llwyddo i deuluoedd sy’n gweithio”.