Fe fydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn treulio’r pedair wythnos nesa’ yn clirio Afon Rhyd-Hir ym Mhwllheli wedi i fwd, silt a brwyn ffurfio ynys fechan gan rwystro llif naturiol yr afon.
Mae peirianwyr yn bwriadu cael gwared â thua 3,000 metr ciwbig o silt gan ddefnyddio cloddwyr a dadlwythwyr.
Os nad yw’r gwaith yn cael ei gwblhau yn llwyddiannus, mae pryder y gall yr ynys barhau i dyfu ac achosi llifogydd yn y dref.
Planhigyn prin
Mae’r swyddogion wedi gorfod dod o hyd i lwybr mynediad arall i beiriannau wedi i blanhigyn ‘leidlys’ gael ei ddarganfod ar lannau’r afon.
“Mae’n bwysig fod y gwaith hwn yn cael ei wneud er mwyn sicrhau nad yw’r 85 eiddo sydd mewn perygl o lifogydd ym Mhwllheli yn cael eu gadael yn ddiamddiffyn,” meddai Dafydd Roberts Arbenigwr Llifogydd, Cyfoeth Naturiol Cymru.
“Roedd yn ymdrech tîm go iawn, ond drwy weithio gyda’n cadwraethwyr, fe ddaethom o hyd i fynedfa arall i’r afon sydd wedi caniatáu i’r gwaith fynd yn ei flaen heb amharu ar y planhigyn prin.