Mae gyrrwr bws a gafodd ei arestio yn dilyn gwrthdrawiad angheuol ar draffordd M1 yn Swydd Buckingham ddoe wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.
Cafodd y gyrrwr ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus yn dilyn y gwrthdrawiad rhwng ei fws ar char Audi A3 am 6.46 fore ddoe.
Cafodd tri o bobol eu lladd, sef y gyrrwr oedd yn ei 50au a dau deithiwr yn eu 20au, wedi i’r bws daro car ar lain galed y draffordd ger Flitwick.
Roedden nhw’n dychwelyd adref ar ôl treulio’r noson yn Llundain.
Mae trydydd teithiwr, sydd yn ei 20au, mewn cyflwr difrifol ond sefydlog yn yr ysbyty yn Rhydychen.
Mae gyrrwr y bws wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth tan fis Mai.
Ni fydd enwau’r rhai fu farw yn cael eu cyhoeddi tan bod aelodau’r teulu wedi cael gwybod.
Bydd cwest i’w marwolaethau’n agor ddechrau’r wythnos nesaf.