David Cameron
Mae Prif Weinidog Prydain, David Cameron wedi dweud bod yr ymosodiadau yn Copenhagen yn “ymosodiad gwarthus ar ryddid barn a rhyddid crefyddol”.
Daw sylwadau Cameron wedi iddi ddod i’r amlwg bod y dyn oedd yn cael ei amau o saethu dau o bobol yn farw ym mhrifddinas Denmarc wedi cael ei saethu’n farw gan yr heddlu.
Mae lle i gredu bod y dyn yn gweithredu ar ei ben ei hun, gan ladd dyn ger synagog a dyn arall mewn digwyddiad rhyddid barn.
Cafodd dau blismon eu hanafu mewn ail ymosodiad wedi iddyn nhw gael eu saethu yn eu braich a’u coes cyn i’r dyn arfog ffoi.
Y prif siaradwr yn y digwyddiad rhyddid barn oedd y cartwnydd dadleuol, Lars Vilks, sydd wedi dod yn enwog am ei ddarlun o’r proffwyd Muhammad yn 2007.
Ni chafodd Vilks ei anafu yn yr ymosodiad.
Dywedodd prif weinidog Denmarc, Helle Thorning-Schmidt mai ymosodiadau gwleidyddol oedd y rhai yn Copenhagen a’u bod nhw felly yn “ymosodiadau brawychol”.
“Rydym yn trin y sefyllfa hon yn ddifrifol iawn.
“Rydyn ni’n wynebu argyfwng drwy’r wlad gyfan, a’n blaenoriaeth ar hyn o bryd yw dal y sawl sy’n gyfrifol a sicrhau ein bod ni’n dod o hyd iddyn nhw cyn gynted ag y bo modd.”
Mewn datganiad, dywedodd Prif Weinidog Prydain, David Cameron: “Mae’r saethu yn Copenhagen yn ymosodiad gwarthus ar ryddid barn a rhyddid crefyddol.
“Mae dau o bobol ddiniwed wedi cael eu llofruddio yn syml oherwydd eu credoau ac mae fy meddyliau gyda’u hanwyliaid a phawb a gafodd eu hanafu yn ystod y cyfnod trasig hwn.