Mae gorymdaith oedd i fod i gael ei chynnal fel rhan o garnifal stryd poblogaidd yng ngogledd yr Almaen wedi cael ei chanslo yn sgil pryderon am ddiogelwch.

Dywed yr heddlu eu bod nhw wedi derbyn gwybodaeth y gallai brawychwyr Islamaidd darfu ar y digwyddiad yn ninas Braunschweig.

Mae’r heddlu wedi apelio ar ymwelwyr i beidio mynd i’r ddinas lle’r oedd disgwyl i’r orymdaith gael ei chynnal.

Mae 250,000 o ymwelwyr yn mynd i’r digwyddiad poblogaidd yng ngogledd yr Almaen bob blwyddyn.

Cafodd yr orymdaith ei chanslo awr a hanner yn unig cyn i’r carnifal ddechrau, a chafodd nifer o ymwelwyr yn eu gwisgoedd ffansi eu symud oddi yno.