Mae dyn sydd wedi torri amodau ei drwydded ar ôl cael ei ryddhau o’r carchar wedi herio’r heddlu drwy ymateb i hysbyseb ar wefan gymdeithasol yn apelio am wybodaeth amdano.

Cafodd Logan Rhys James, 19 oed, ei ryddhau ar ôl treulio wyth mis dan glo am ymosod â chyllell a nifer o droseddau cysylltiedig.

Postiodd Heddlu Gwent neges ar eu tudalen facebook gyda llun o’r dyn o Gaerffili y maen nhw’n awyddus i ddod o hyd iddo.

Dywed yr heddlu nad oedd e wedi mynd i gyfarfod gyda’r gwasanaeth prawf, sy’n un o amodau’r drwydded.

O dan y llun, postiodd James neges yn dweud: “Haha, catch me if you can wont see me slipping”.

Mae lle i gredu bod ganddo fe gysylltiadau ag ardal Y Barri hefyd.