Mae Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu yn ymchwilio wedi i’r heddlu saethu ac anafu dyn yng ngogledd Llundain neithiwr.

Cafodd yr heddlu eu galw i dŷ yn Hendon yng ngogledd Llundain yn dilyn adroddiadau bod dyn yn saethu oddi ar falconi.

Saethodd yr heddlu’r dyn 48 oed ar ôl cyrraedd y tŷ oddeutu 8.15yh, a chafodd plismon ei anafu yn y digwyddiad.

Cafodd y dyn 48 oed ei gludo i’r ysbyty ag anafiadau difrifol, a dioddefodd y plismon fân anafiadau.

Mae ymchwiliad Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu eisoes wedi dechrau, ac mae disgwyl i Trident ymchwilio i unrhyw droseddau a gafodd eu cyflawni gan y dyn 48 oed yn ymwneud ag arfau.