Cafodd dwy ddynes eu lladd mewn gwrthdrawiad rhwng tri char yn Swydd Norfolk neithiwr.

Bu farw’r ddwy ddynes 46 a 30 oed yn y digwyddiad ar ffordd A11 yn Besthorpe ger Norwick am 11.30yh.

Dywedodd Heddlu Swydd Norfolk fod car Peugeot 306 gwyrdd, Vauxhall Zafira gladd a Ford Focus glas wedi taro’i gilydd ger caffi ar ymyl y ffordd, ac y bu farw gyrrwr 46 oed y Peugeot 306 yn y fan a’r lle.

Cafodd gyrrwr 30 oed y Vauxhall Zafira ei chludo i’r ysbyty lle bu farw’n ddiweddarach.

Cafodd nifer o bobol oedd yn teithio yn y Ford Focus fân anafiadau.