Iain Duncan Smith
Mae Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau San Steffan, Iain Duncan Smith wedi canmol cynllun Credyd Unffurf Llywodraeth Prydain, gan ddweud ei fod yn helpu pobol i ddod o hyd i waith yn gynt ac ennill cyflogau uwch.

Yn ôl ymchwil, mae pobol sy’n derbyn credyd unffurf 5% yn fwy tebygol o ddod o hyd i waith o fewn pedwar mis, o’i gymharu â phobol sy’n derbyn y Lwfans Ceiswyr Gwaith.

Dywed yr ymchwil fod pobol sy’n derbyn y Credyd Unffurf wedi treulio pedwar diwrnod yn fwy mewn gwaith na phobol sy’n derbyn y Lwfans Ceiswyr Gwaith, a’u bod nhw wedi ennill £50 yn fwy yn ystod y cyfnod dan sylw.

Ond yn ôl y Blaid Lafur, mae’r Credyd Unffurf yn arbed llawer llai o arian i Lywodraeth Prydain na’r disgwyl.

Cafodd y Credyd Unffurf ei gyflwyno i ddisodli cyfres o fudd-daliadau unigol, a’i fwriad yw sicrhau nad yw pobol yn well eu byd wrth dderbyn budd-daliadau na phe baen nhw’n cael eu cyflogi i weithio.

Mae Iain Duncan Smith wedi amddiffyn yr oedi wrth gyflwyno’r cynllun, gan ddweud bod y cynllun wedi costio llai na’r disgwyl.

“O’i gymharu â’r gwariant o oddeutu £2.4 biliwn roedden ni’n ei ddisgwyl yn wreiddiol, rydyn ni nawr yn gwario £1.8 biliwn….”

Methiant

Ond dywedodd llefarydd gwaith a phensiynau’r Blaid Lafur, Rachel Reeves: “Yr unig berson sy’n credu addewidion Iain Duncan Smith ynghylch y Credyd Unffurf yw Iain Duncan Smith.

“Addawodd Iain Duncan Smith y byddai’r Credyd Unffurf yn arbed £1.7 biliwn i drethdalwyr mewn lleihau gwallau a thwyll.

“Ond nawr mae e wedi cyfaedef fod y Llywodraeth wedi torri’r arbedion a gafodd eu cynllunio o ddau draean.

“Addawodd Iain Duncan Smith y byddai un miliwn o bobol yn hawlio’r Credyd Unffurf erbyn mis Ebrill 2014.

“Ond mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos mai 26,940 sy’n derbyn y budd-dal newydd.

“Ar hyn o bryd, fe fydd yn cymryd 1,571 o flynyddoedd i gyflwyno’r Credyd Unffurf.”

Galwodd ar y Swyddfa Archwilio i gynnal arolwg o’r Credyd Unffurf.