Mae’r artist oedd yn gyfrifol am greu arddangosfa’r pabi yn Llundain wedi dweud bod pobol wedi bygwth ei ladd am eu bod nhw’n anhapus bod elusennau milwrol am fanteisio’n ariannol ar y rhyfeloedd.

Yn ôl Paul Cummins, cafodd ei fygwth gan bobol trwy e-bost, galwadau ffôn a llythyron.

Heidiodd miliynau o bobol i weld yr arddangosfa ‘Blood Swept Lands and Seas of Red’ ger Tŵr Llundain, lle cafodd 888,246 o babïau seramig eu gosod yn y dŵr – a phob pabi’n cynrychioli milwr Prydeinig a gafodd ei ladd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Cafodd y pabïau eu gwerthu am £10 miliwn ar ddiwedd yr arddangosfa, ac roedd disgwyl i’r arian fynd at Help for Heroes, y Llengfilwyr Prydeinig a nifer o elusennau eraill.

Ers sefydlu’r arddangosfa, mae Paul Cummins wedi cael cynnig creu arddangosfeydd yng ngwledydd Prydain ac Ewrop.