Mae prif weithredwr HSBC wedi ymddiheuro’n gyhoeddus am roi cymorth i gwsmeriaid gymryd rhan mewn cynllun i osgoi talu trethi.
Mewn llythyr agored i’w gwsmeriaid, dywedodd Stuart Gulliver fod y sylw gan y cyfryngau wedi bod yn “brofiad poenus”.
Ychwanegodd fod cangen y cwmni yn Y Swistir wedi cael ei had-drefnu bellach.
Yn y llythyr, dywedodd Gulliver: “Hoffem roi ychydig o sicrwydd a nodi rhai o’r ffeithiau sydd y tu ôl i’r straeon.
“Mae sylw’r cyfryngau wedi bod ar ddigwyddiadau hanesyddol sy’n dangos nad oedd ein safonau ni heddiw yn eu lle o ran ein gweithrediadau yn Y Swistir wyth mlynedd yn ôl.”
Dywedodd nad yw’r rhan fwyaf o’r 140 o gwsmeriaid a gafodd eu henwi fel rhai sydd wedi manteisio ar y cynllun bellach yn gwsmeriaid HSBC.
Ychwanegodd Gulliver nad oes gan HSBC “awydd o gwbwl i fasnachu â chleientiaid sy’n osgoi talu eu trethi neu sy’n methu cyrraedd ein safonau cydymffurfio â throseddau ariannol”.