Roedd dyn a gafodd ei saethu’n farw gan yr heddlu yn Nenmarc yn cael ei amau o ladd dau o bobol mewn cyfarfod ac mewn synangog yn ninas Copenhagen.
Yn ôl yr heddlu, dydyn nhw ddim yn chwilio am unrhyw un arall mewn perthynas ag achos o saethu, pan gafodd dau o bobol eu lladd a phump o blismyn eu hanafu.
Daw’r ymosodiad diweddaraf fis yn unig wedi i 17 o bobol eu lladd mewn ymosodiadau tebyg ym Mharis.
Cafodd y dyn arfog ei saethu gan yr heddlu ddoe ar gyrion Copenhagen.
Digwyddodd yr ymosodiad cyntaf toc cyn 4 o’r gloch brynhawn ddoe wrth i’r dyn saethu drwy ffenestri canolfan ddiwylliannol yn ystod araith gan artist o Sweden oedd yn gyfrifol am gartŵn dadleuol o’r proffwyd Muhammad.
Ni chafodd yr artist, Lars Vilks ei anafu, ond cafodd dyn 55 oed ei ladd a thri o blismyn eu hanafu.
Cafodd dyn arall ei ladd a dau o blismyn eu hanafu y bore ma yn dilyn digwyddiad y tu allan i synagog.
Dyn Iddewig a gafodd ei ladd yn yr ail ymosodiad wrth iddo amddiffyn mynedfa adeilad cyfagos.
Mae arweinwyr gwleidyddol wedi beirniadu’r ymosodiadau gan ddatgan eu cefnogaeth i Ddenmarc.