Ed Miliband
Mae Ed Miliband wedi addo mwy o bwerau i Lywodraeth Cymru pe byddai’n cael allweddi 10 Stryd Downing ym mis Mai.
Dywedodd arweinydd Llafur yng nghynhadledd y blaid yng Nghymru byddai pwerau dros borthladdoedd, trefniadau etholiadol a phrosiectu egni mawr yn cael eu datganoli i Fae Caerdydd.
O dan lywodraeth Lafur, meddai, “fe fydd Senedd Cymru’n chwarae rol fwy ym mywydau pobol Cymeu”.
Prisiau egni
Ategoodd Ed Miliband hefyd ei fwriad o rewi prisiau egni nes 2017, cael gwared o’r dreth ystafell wely yn ogyatal a chynyddu’r isafswm cyflog.
“Fe ddylai pwerau dros etholiadau Cymru fod yn nwylo Senedd Cymru,” meddai.
“Mae hyn yn golygu y byddai Cymru’n gallu dewis i ehangu ei etholfraint fel y gwnaethom nhw yn yr Alban ar gyfer y refferendwm.
“Mae e hefyd yn golygu mwy o bwerau dros wasanaethau cyhoeddus”.
Cyllido teg
Dywedodd Ed Miliband y byddai’n sichrau cyllido teg i Gymru. Fe ddywedodd Comisiwn Holtham yn 2009 bod Cymru’n cael ei thangyllido £300m y flwyddyn.
“Tra bod y Ceidwadwyr wedi cwtogi ar gyllideb Cymru o £1.5bn, fe wnawn ni sicrhau setliad ariannol teg i Gymru,” meddai Ed Miliband.
Addawodd hefyd adolygiad o’r “bon i’r brig” o awdurdod treth y Deyrnas Unedig os bydd Llafur mewn grym yn dilyn yr etholiad cyffredinol.
Cyhuddodd y Ceidwadwyr o beidio mynd i’r afael a’r broblem o bobol gyfoethog yn osgoi talu treth.