Mae beth bynnag un teithiwr wedi marw, ac mae teithiwr arall yn ymladd am ei fywyd, wedi damwain ar draffordd yr M40 heddiw.

Mae chwe theithiwr aral wedi’u hanafu’n ddifrifol, ac mae gan 45 arall eto anafiadau llai wedi’r gwrthdrawiad a ddigwyddodd mewn niwl rhewllyd toc cyn 8yb.

Fe gafodd criwiau achub, heddlu, ambiwlansys a hofrenyddion eu galw i safle’r ddamwain rhwng cyffyrdd 9 a 10 ger Bicester yn Swydd Rhydychen.

Mae’r draffordd wedi cau i gyfeiriad y gogledd.