Mae dyn 32 oed wedi’i arestio ar amheuaeth o fod yn aelod neu’n gefnogwr y grwp terfysgol, Islamic State (IS).

Mae’r dyn hefyd yn cael ei amau o gasglu gwybodaeth a allai fod o gymorth i rywun sy’n paratoi gweithredoedd terfysgol, ac o annog gweithredoedd terfysgol.

Fe gafodd ei arestio gan swyddogion Adran Gwrth-Derfysgaeth Heddlu’r Met, a hynny mewn cyfeiriad yn Newham, dwyrain Llundain.

Fe gafodd ei arestio dan y Ddeddf Tystiolaeth Droseddol, a’i gludo i swyddfa heddlu yn ne Llundain. Mae’n parhau yn y ddalfa, yn cael ei holi.