Fe laddwyd tri dyn wedi i fws deulawr fod mewn gwrthdrawiad efo cerbyd sefydlog ar draffordd yr M1.

Bu farw’r tri, a oedd yn teithio yn y car, yn y fan a’r lle. Roedd eu cerbyd wedi parcio ar lain galed y draffordd ger Flitwick yn Swydd Bedford.

Chafodd neb yn y bws ei anafu yn y digwyddiad toc cyn 7 o’r gloch fore heddiw.

Fe ddigwyddodd y ddamwain rhwng cyffyrdd 12 a 13, ac roedd y bws yn teithio i gyfeiriad y gogledd o ardal Kent.

Mae’r draffordd yn parhau ar gau i gyfeiriad y gogledd, tra bod ymchwiliadau i’r ddamwain yn mynd rhagddyn.