Mae Carwyn Jones wedi rhybuddio am y peryg y byddai ethol llywodraeth Geidwadol yn San Steffan yn ei gael ar Gymru.
Dywedodd y Prif Weinidog yng nghynhadledd y blaid Lafur yn Abertawe heddiw y byddai “popeth” yn gweld torriadau dan y Toriaid, ac y byddai’r blaid yn dinistrio’r wlad.
Cameron “eithafol”
Ychwanegodd Prif Weinidog Cymru bod David Cameron yn fwy eithafol na chyn-arweinydd y blaid Geidwadol yn yr 1980au, Margaret Thatcher.
“Fe fyddai pum mlynedd arall yn golygu na fyddai yna ddewisiadau o gwbwl,” meddai Carwyn Jones, “dim ots pa mor anodd fyddai’r penderfyniadau.
“Dim llyfrgelloedd a chanolfannau… fe fyddai popeth yn ei chael hi. Pan mae hi’n dod i ddinistrio’r wladwriaeth, mi wnaiff nhw orffen be wneith nhw ddechrau – a dim ond Llafur all eu stopio nhw.”
Dywedodd bod gan bleidleiswyr ddewis rhwng “gobaith a anobaith” a bod y gwahaniaeth rhwng Llafur a’r Ceidwadwyr yn “enfawr”.
Mewnfudo ac UKIP
Fe gyfeiriodd hefyd at fewnfudo, gan ddweud bod yn rhaid i iaith a pholisiau Llafur fod yn seiliedig ar degwch a pharch.
Gan gyfeirio, mae’n debyg at Ukip, dywedodd: “Ni allen ni adael i’r senoffobia asgell dde dog whistling ein llusgo ni lawr i’w lefel nhw.
“Ar y mater o fewnfudo dyma’r blaid sy’n dal cwmpas moesol y wlad, a ddylen ni fyth anghofio hynny.”