Mae tua 140 o forfilod a gafodd eu hunain yn sownd ar dir sych yn Seland Newydd, wedi marw.

Ond mae gweithwyr achub yn gobeithio achub 60 o forfilod eraill rhag marw, trwy eu cael yn ôl i’r môr.

Mae daearyddiaeth yr ardal sy’n cael ei nabod fel Farewell Spit ar Ynys y De yn aml yn twyllo morfilod, gan fod y creaduriaid yn aml yn eu cael eu hunain yn sownd yno ar dir sych.

Pan laniodd y 198 yno ddoe, roedd yn un o’r grwpiau mwya’ ers blynyddoedd i wneud hynny, ac mae tua 80 o weithwyr a gwirfoddolwyr wedi bod yn gweithio.

Erbyn neithiwr, roedd 140 wedi trengi.