Mae beth bynnag 16 o bobol wedi’u lladd, a 22 arall wedi’u hanafu, mewn gwrthdrawiad rhwng bws a thrên ar groesfan yng ngogledd Mecsico.

Fe ddigwyddodd y ddamwain yn nhre’ Anahuac yn nhalaith Tamaulipas.

Mae’r cwmni trenau, Kansas City Southern de Mexico, wedi rhyddhau datganiad yn cadarnhau fod yna “ddamwain drist” wedi digwydd, a bod “nifer heb ei gadarnhau eto” o bobol wedi marw ac wedi’u hanafu ar safle’r ddamwain.

Dydi’r cwmni eto ddim wedi cynnig rheswm pam y digwyddodd y ddamwain ar y groesfan. Yn y cyfamser, mae’r awdurdodau ym Mecsico yn ymchwilio i’r digwyddiadau.