Mae pedwar o bobol wedi’u harestio yn dilyn cyrchoedd ar ddau adeilad yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr.
Fe aeth swyddogion Heddlu De Cymru i mewn i’r naill gartref ym Mro Ogwr, a’r llall yn Tondu, gan ddod o hyd i ganabis, cocen a meffadron.
Fe gafodd tri dyn ac un wraig ei harestio yn dilyn y cyrchoedd, pob un ar amheuaeth o fod a chyffuriau yn eu meddiant gyda’r bwriad o’u cyflenwi i eraill.
Mae’r pedwar wedi’u rhyddhau ar fechniaeth tan Ebrill 3, tra bod ymchwiliadau’r heddlu yn parhau.