Mae dyn wedi’i gludo i’r ysbyty yn dilyn tân mewn tŷ yn Wrecsam yn ystod oriau mân bore heddiw.

Y gred ydi fod y tân wedi’i gynnau’n fwriadol.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, ynghyd â Heddlu Gogledd Cymru, yn ymchwilio i achos y fflamau mewn blwch llythyrau yn Bryn Hafod ar stad Parc Caia am 2.05yb.

Mae dyn 49 oed yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty ar ôl anadlu mwg.