Mae llai o oedolion yn gor-yfed a mwy o bobol ifanc yn troi eu trwynau ar alcohol, yn ôl ffigyrau newydd sy’n cael eu cyhoeddi heddiw.
Datgelodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) bod un o bob pump oedolyn (21%) ym Mhrydain wedi rhoi’r gorau i alcohol yn gyfan gwbl, sy’n gynnydd ar yr 19% o bobol oedd ddim yn yfed alcohol yn 2005.
Mae’r nifer sy’n gor-yfed, sef yfed mwy na 3-4 uned y diwrnod os yn ddyn neu 2-3 uned os yn ferch, hefyd wedi gostwng o 18% i 15%.
Dros chwarter pobol 16-24 oed ddim yn yfed
Ymysg pobol ifanc 16-24 oed mae cynnydd wedi bod yn y nifer sydd ddim yn yfed alcohol o gwbl, o 19% yn 2005 i 27% yn 2013.
Ond o’r rhai oedd yn yfed alcohol, dangosodd y ffigyrau mae pobol yng ngogledd Lloegr a’r Alban oedd y fwyaf tebygol o or-yfed.
Mae swyddogion iechyd o fewn y diwydiant alcohol wedi croesawu’r ffigyrau.