Mae Urdd Gobaith Cymru yn galw ar bobl ifanc sydd â diddordeb yn yr amgylchedd i wneud cais am Ysgoloriaeth Geraint George – sy’n gobeithio meithrin cyfathrebwyr i helpu pobol i werthfawrogi a deall byd natur.

Mae gofyn i bobol rhwng 18-25 oed anfon gwaith sy’n trafod unrhyw bwnc amgylcheddol sy’n berthnasol i Gymru – ar ffurf ffilm fer, blog, eitem sain, erthygl neu mewn unrhyw gyfrwng arall – at Eisteddfod yr Urdd cyn 1 Mawrth.

Fe gafodd yr ysgoloriaeth ei sefydlu yn dilyn marwolaeth ddisymwth un o hoelion wyth maes amgylchedd Cymru, Geraint George, ym mis Ebrill 2010.

Dywedodd Emyr Williams, Prif Weithredwr  Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, wrth son amdano: “Ysbrydolodd Geraint George genedlaethau o bobol ifanc i weithredu dros gadwraeth yr amgylchedd drwy gyfrwng y Gymraeg a hynny drwy ddulliau amrywiol a chreadigol.

“Gwelodd bwysigrwydd cyfathrebu da i faes cadwraeth ac mae’r ysgoloriaeth yma yn rhoi cyfle arbennig i’r enillydd ddatblygu gyrfa mewn cadwraeth amgylcheddol drwy brofiadau gwerth chweil yn y maes, ymweliadau ag ardaloedd dynodedig drwy’r byd a chyfleoedd mentora gwych”.