Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn annog trigolion siroedd Gwynedd a Môn i gyfrannu at y broses o gasglu barn gyhoeddus am eu cynlluniau ar gyfer caniatáu codi dros 7,000 o dai newydd yn y ddwy sir – bydd y broses ymgynghorol yn cychwyn ddydd Mawrth nesaf.
Mae Cynghorau Sir Gwynedd a Môn wedi datgan yn ddiweddar y bydd yr hyn sy’n cael ei alw yn “Cynllun Adnau” y Cynllun Datblygu Lleol yn cael ei rhyddhau am ymgynghoriad cyhoeddus am chwe wythnos.
Gobaith y ddau gyngor ydi cael barn y cyhoedd am y cynllun, ac yn arbennig eu barn am faint o dai fydd yn cael eu hadeiladu ac ymhle.
Cyfnod allweddol
Dywedodd Osian Jones, trefnydd y mudiad iaith yn y gogledd fod Cymdeithas yr Iaith yn grediniol fod y broses o lunio’r Cynllun Datblygu Lleol yn cyrraedd cyfnod allweddol a’i fod yn annog trigolion i gyfrannu at yr ymgynghoriad.
Ychwanegodd fod Cymdeithas yr Iaith yn pryderu y bydd pob rhan o’r ddwy sir yn gweld rhyw fath o ddatblygu tai, a hynny heb unrhyw ddealltwriaeth o beth yn union fydd effaith ar y Gymraeg fel “iaith gymunedol hyfyw”.
Mae Cymdeithas yr Iaith nawr eisiau anfon neges glir a syml i Gynghorau Gwynedd a Môn yn ystod yr ymgynghoriad gan annog trigolion i ddweud ‘NA i 8000 o dai’.
Meddai Osian Jones: “Fel un sydd wedi edrych ar y ddogfen, mae ein pryderon wedi eu gwireddu. Hynny ydi mai gobaith y ddau gyngor ydi rhyddhau digon o dir er mwyn adeiladu ychydig dros 7,000 o dai, yn wahanol i’r hyn oedd yn cael ei ddweud gan ambell i gynghorydd dylanwadol yn ystod y flwyddyn a aeth heibio.
“Yn ail, rydym yn poeni ac yn cwestiynu dilysrwydd yr hyn sydd yn cael ei gynnig – o wireddu’r cynllun, bydd 870 o dai yn cael eu hadeiladu ym Mangor, 384 yng Nghaernarfon, 291 yn nhref Pwllheli, 291 ym Mlaenau Ffestiniog, 82 ym Methesda, 621 yn Llangefni.
“O edrych wedyn ar bentrefi llai, y gobaith ydi adeiladu 69 o dai yn Llanberis, 39 ym Motwnnog a 39 yn Chwilog.”
Ychwnaegodd: “Wrth ddarllen drwy’r cynllun, mi fydd pob rhan o’r sir yn gweld rhyw fath o ddatblygu tai, a hynny heb unrhyw ddealltwriaeth o beth yn union fydd effaith hyn oll ar y Gymraeg fel iaith gymunedol hyfyw.”
Lleisio barn yn bwysig
Bydd y Cynllun Datblygu Lleol yn neilltuo tir yn y ddwy sir ar gyfer codi tai newydd hyd at 2026.
Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros gynllunio: “Mae gan y Cynllun hwn rôl bwysig i’w chwarae mewn cefnogi a datblygu cymunedau cynaliadwy yma yng Ngwynedd yn ystod y cyfnod penodedig.
“Datblygwyd y Cynllun ar sail tystiolaeth gadarn felly mae’n hynod bwysig fod pobl leol yn cymryd mantais o’r cyfnod ymghynghori i rannu eu barn ar y cynllun hyd yma.
“Unwaith bydd y cynllun wedi ei fabwysiadu, bydd yn cael ei fonitro yn flynyddol ac yn cael ei adolygu pob pedair blynedd. Bydd hyn yn sicrhau fod y cynllun yn gyfredol a’i fod ddigon hyblyg i ymateb i newidiadau, fel ei fod yn ateb anghenion cymdeithasol, economiadd ac amgylcheddol Gwynedd.”
Ychwanegodd deilydd portffolio Pwyllgor Gwaith Môn, y Cynghorydd Arwel Roberts, “Bydd y CDLlC newydd yn rhoi fframwaith fydd yn ganllaw i gynllunwyr wrth iddynt ddelio a nifer o faterion lleol, er enghraifft er mwyn sicrhau cymysgedd dda o gartrefi ar draws Gwynedd a Môn ac fod tai yn cyfateb â datblygiadau a strategaethau economaidd lleol. O safbwynt Môn, bydd hefyd yn darparu fframwaith gadarn ar gyfer gwireddu ein rhaglen Ynys Ynni a sicrhau bod y Sir yn elwa o ddatblygiadau ddaw yn sgil datblygiad gorsaf bwer y Wylfa Newydd.