Mae angen datrys y sefyllfa dros ddyledion Gwlad Groeg yn gyflym er mwyn atal difrod i economi Prydain, meddai David Cameron.
Mae’r Prif Weinidog, sydd i fod i gyfarfod arweinydd gwlad Groeg Alexis Tsipras, am y tro cyntaf heddiw wedi rhybuddio y bydd y cyfandir cyfan yn dioddef, yr hira’ mae’r anghydfod rhwng Gwlad Groeg a gweddill ardal yr ewro yn parhau.
Mae’r DU wedi galw ar y ddwy ochr yn yr anghydfod i ymddwyn yn gyfrifol mewn ymdrech i osgoi argyfwng economaidd arall yn Ewrop.
Mae’r Canghellor George Osborne hefyd wedi rhybuddio bod perygl cynyddol y gallai Gwlad Groeg gael ei gorfodi allan o’r ewro oni bai fod y sefyllfa’n cael ei datrys.
Wrth siarad yn Mrwsel, fe wnaeth David Cameron gyfaddef y gallai economi Prydain gael ei niweidio gan ansicrwydd ynghylch a fydd Gwlad Groeg yn gwrthod talu ei dyledion neu’n gadael yr ewro.
Mae angen datrys y sefyllfa dros ddyledion Gwlad Groeg yn gyflym er mwyn atal difrod i economi Prydain, meddai David Cameron.
Mae’r Prif Weinidog, sydd i fod i gyfarfod arweinydd gwlad Groeg Alexis Tsipras, am y tro cyntaf heddiw wedi rhybuddio y bydd y cyfandir cyfan yn dioddef yr hira mae’r anghydfod rhwng Gwlad Groeg a gweddill ardal yr ewro yn parhau.