Bydd Virgin Media yn creu 6,000 o swyddi newydd fel rhan o gynlluniau i fuddsoddi £3 biliwn er mwyn ehangu ei rwydwaith band eang.
Mae’r cwmni wedi disgrifio’r cynllun pum mlynedd fel y buddsoddiad unigol mwyaf yn seilwaith digidol band eang y DU am fwy na degawd.
Bydd yn ehangu ei rwydwaith ffibr i tua pedair miliwn o safleoedd ychwanegol, gan gynyddu nifer y cartrefi a busnesi y gall y cwmni gynnig gwasanaethau iddynt i bron i 17 miliwn erbyn 2020.
Mae disgwyl i’r cynlluniau uchelgeisiol greu 6,000 o swyddi yn y DU. Bydd hefyd yn cynyddu nifer y prentisiaethau sydd ar gael o fewn y cwmni i 1,000 dros y pum mlynedd nesaf.