Mae’r cyfreithiwr hawliau dynol, Amal Clooney, wedi croesawu penderfyniad gan farnwr yn yr Aifft i ryddhau dau o newyddiadurwyr Al Jazeera ar fechnïaeth.

Dywedodd y gwraig yr actor George Clooney ei bod hi wedi ei “chalonogi” gan y dyfarniad i ryddhau Mohamed Fahmy, oedd hi’n ei gynrychioli, a Baher Mohammed.

Roedd y ddau wedi cael eu dedfrydu, ynghyd â’u cydweithiwr Peter Greste, i o leiaf saith mlynedd yn y carchar y llynedd am gyhuddiadau oedd yn gysylltiedig â brawychiaeth. Mae grwpiau hawliau dynol wedi disgrifio’r cyhuddiadau fel rhai ffug.

Cafodd y tri eu harestio am ddarlledu ymgyrchoedd treisgar y llywodraeth ar brotestiadau Islamaidd yn dilyn y coup yn erbyn Arlywydd Mohammed Morsi yn 2013.

Roedd awdurdodau’r Aifft wedi eu cyhuddo o roi llwyfan i blaid Mohammed Morsi, y Muslim Brotherhood, sydd erbyn hyn yn sefydliad brawychol yn llygaid y gyfraith.

Cafodd y dyfarniadau eu dileu ar 1 Ionawr ond cafodd y dynion eu cadw yn y ddalfa tra’n aros am ail achos.

Daeth y penderfyniad i ganiatáu mechnïaeth lai na phythefnos ar ôl i’r trydydd dyn, Peter Greste, gael ei hel o’r wlad i Awstralia.