David Cameron
Mae Prif Weinidog Prydain, David Cameron wedi gwadu ei fod yn boddi mewn trafferthion yn sgil sgandal cynlluniau osgoi trethi banc HSBC.
Wrth amddiffyn ei hun, dywedodd Cameron fod arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband yn ailadrodd anwireddau dro ar ôl tro am y Ceidwadwyr.
Gwnaeth Miliband gymharu penderfyniad Cameron i benodi cyn-gadeirydd a phrif weithredwr HSBC, yr Arglwydd Green yn Weinidog Masnach, gydag anwybyddu rôl cyn-swyddog y wasg Downing Street, Andy Coulson yn y sgandal hacio ffonau.
Ond dywedodd Cameron fod yr Arglwydd Green wedi bod yn arweinydd cyngor busnes y Blaid Lafur o dan arweiniad Gordon Brown, a’i fod wedi’i wahodd ar daith fasnach dair blynedd wedi i honiadau o sgandal yn HSBC ddod i’r amlwg.
Mae Miliband hefyd yn honni bod saith o fuddsoddwyr yn y Blaid Geidwadol ynghlwm wrth sgandal HSBC.
Ond yn ôl Cameron, mae un o fuddsoddwyr y Blaid Lafur, yr Arglwydd Paul hefyd yn rhan o’r sgandal.
‘Amheus’
Yn ystod Sesiwn Holi’r Prif Weinidog, dywedodd Miliband: “Allwch chi ddim anwybyddu’r ffaith eich bod chi’n Brif Weinidog amheus, wedi’ch amgylchynu gan roddwyr amheus.”
Wrth ymateb, dywedodd Cameron: “Ry’n ni’n gwybod beth sy’n digwydd – bob wythnos rydych chi’n fwyfwy despret oherwydd dydych chi ddim yn gallu trafod yr economi, dydych chi ddim yn gallu trafod diweithdra, felly rydych chi’n dod yma gydag anwiredd ar ôl anwiredd.”
Ychwanegodd Miliband: “Mae rhywbeth pwdr wrth galon y Blaid Dorïaidd – a chi yw hwnnw.”
Ond dywedodd Cameron fod undebau llafur, sef prif fuddsoddwyr y Blaid Lafur, yn talu am bolisïau ac yn dewis arweinydd y blaid.