Mae dwy ddynes o Walsall wedi cael eu harestio yn ardal y West Midlands ar amheuaeth o droseddau brawychol.
Cafodd y ddwy ddynes 23 a 33 oed eu harestio yn eu cartrefi’r bore yma, meddai Heddlu’r West Midlands mewn datganiad byr.
Dywedodd llefarydd bod y ddynes ieuengaf wedi’i harestio ar amheuaeth o baratoi ar gyfer troseddau brawychol mewn cysylltiad â Syria.
Mae’r ail ddynes yn cael ei hamau o gelu gwyodaeth.