Car hunan-lywio Google
Mae grwpiau moduro a diogelwch ceir wedi croesawu arbrawf fydd yn gweld y ceir di-yrrwr cyntaf yn cael eu cyflwyno yng ngwledydd Prydain.
Ond mewn arolwg gan wefan uSwitch.com, dywedodd 48% o’r rhai a gafodd eu holi na fydden nhw’n fodlon teithio mewn car heb yrrwr.
Roedd 16% o’r rhai a gafodd eu holi “wedi brawychu” gan y syniad o deithio mewn ceir heb yrrwr, tra bod 35% o’r farn y byddai prisiau yswiriant yn codi’n sylweddol yn sgil y ceir.
Ond mewn datganiad, dywedodd cyfarwyddwr Cymdeithas Yswirwyr Prydain, James Dalton fod y diwydiant yswiriant yn croesawu’r cynlluniau.
“Mae gwallau gan yrwyr yn gyfrifol am 90% o wrthdrawiadau ar y ffyrdd, felly mae’r diwydiant yswiriant yn cefnogi datblygu technoleg cerbydau sy’n gwella diogelwch ar y ffyrdd, gan gynnwys hunan-frecio mewn argyfwng.”
Ychwanegodd y gallai technoleg newydd achosi chwyldro yn y diwydiant moduro.
Cafodd y cynlluniau sêl bendith Cyngor Cynghori ar Ddiogelwch Cludiant San Steffan hefyd.
Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr y Cyngor, David Davies ei fod yn croesawu canllawiau newydd ar gyfer ceir di-yrrwr.
“Nid yw pobl yn debygol o wella ryw lawer fel gyrwyr ond mae technoleg diogelwch – bod heb yrrwr neu gyda gyrrwr – yn datblygu’n gyflym.”
Ychwanegodd prif weithredwr Sefydliad y Diwydiant Moduro, Steve Nash: “Ni fydd claddu eich pen yn y tywod yn gweithio os ydych chi am barhau i weithredu’n effeithiol yn y diwydiant gwasanaethu a thrwsio.
“Rhaid i fusnesau ddechrau buddsoddi mewn hyfforddiant yn y technolegau cerbydau diweddaraf er mwyn ateb y galw yn y dyfodol.”